SL(5)293 - Rheoliadau Gwasanaethau Eiriolaeth Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac yn nodi’r gofynion rheoleiddiol a’r ddarpariaeth gysylltiedig ar gyfer darparwyr gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig a’r personau hynny sydd wedi eu dynodi’n unigolion cyfrifol ar gyfer gwasanaethau o’r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â gwasanaethau eirioli. Er enghraifft, o dan y Rheoliadau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir, a rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt bolisïau mewn perthynas â disgyblu staff a diogelu, er enghraifft.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Os nad yw'r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, o dan reoliad 6(4)(c), rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y Rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.

Fodd bynnag, mae gofynion pwysig hefyd yn Rhan 2 o'r Rheoliadau. Nid yw'n glir pam nad yw rheoliad 6(4)(c) yn gwneud cydymffurfedd â Rhan 2 o'r Rheoliadau yn ofynnol.

Mae'r un mater yn codi mewn perthynas â rheoliad 7(3)(c).

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd gonestrwydd ar ddarparwyr gwasanaethau - rhaid i ddarparwyr gwasanaethau weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag:

-      unigolion (h.y. personau y mae'r darparwr gwasanaeth yn darparu neu wedi darparu eiriolaeth ar eu cyfer, neu bersonau y gallai'r darparwr gwasanaeth ddarparu eiriolaeth ar eu cyfer), ac

-      unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.

Fodd bynnag, nid oes dyletswydd i weithredu mewn modd agored a thryloyw gyda chomisiynwyr gwasanaethau (h.y. awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am wneud trefniadau gyda darparwr gwasanaeth i ddarparu cymorth i blentyn neu berson o dan adran 178(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Gofynnwn pam nad oes dyletswydd o'r fath.

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth eirioli. Rhaid wedyn i'r canllaw gael ei roi i "awdurdodau comisiynu" (gweler rheoliad 15(2)(d)).

Fodd bynnag, nid oes diffiniad o "awdurdodau comisiynu".

Mae'r diffyg eglurder yn bryder penodol o gofio bod torri'r ddyletswydd yn rheoliad 15(2)(d) yn drosedd, ac mae angen eglurder llwyr wrth greu troseddau.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb y llywodraeth i’r tri phwynt craffu technegol sy’n codi yn yr adroddiad hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

7 Ionawr 2019